Gwasanaeth Eiriolaeth Cymunedol
Mae Gwasanaethau Eiriolaeth Cymunedol ar gyfer pobl sydd angen cefnogaeth i ddelio â phroblem y maen nhw’n ei hwynebu.
Mae’r gwasanaeth yn agored i oedolion sy’n 18 oed neu’n hŷn, a gall pobl ddefnyddio Eiriolaeth Gymunedol fel rheol os ydyn nhw:
- Mewn sefyllfa lle mean nhw’n teimlo’n agored i niwed, yn teimlo fod yna wahaniaethu yn eu herbyn neu fod yna berygl o gam-drin (ariannol, emosiynol, corfforol, rhywiol, seicolegol neu sefydliadol)
- Yn cael anhawster mynegi eu barn neu’n teimlo nad oes neb yn gwrando
- Yn teimlo nad ydyn nhw’n cael cymorth gan rywun a ddylai ystyried eu pennaf lles nhw yn y bôn
- Yn wynebu newid mawr yn eu bywyd a hynny efallai’n golygu y bydd angen iddyn nhw gael mynediad at wasanaethau cymorth
- Yn dymuno ceisio cael ail-fynediad at wasanaethau eilaidd
- Yn darparu gofal di-dâl i berthynas, ffrind neu gymydog ac angen deall eu hawliau fel gofalwr a chael mynediad at wasanaethau cymorth
Cysylltwch â ni
- Gwasanaeth Eiriolaeth Gymunedol
- Atgyfeiriadau ar y ffôn: 01248 670 450
- Ebost: advocacy@mhas.co.uk
- Taflen: Llwytho
- Ffurflen Cyfeirio: Llwytho